Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 61(2) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (a pharagraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad.

2014 Rhif  (Cy. )

ANIFEILIAID, CYMRU

LLES ANIFEILIAID

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Adnabod Cŵn) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer microsglodynnu cŵn yn orfodol fel dull o adnabod ac ar gyfer cofrestru’r microsglodyn a manylion ceidwad y ci mewn cronfa ddata. 

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gi bach a gaiff ei eni ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym gael ei ficrosglodynnu cyn iddo droi’n 56 diwrnod oed neu cyn iddo gael ei drosglwyddo i geidwad newydd, pa un bynnag yw’r cynharaf.  

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gi y mae ei geidwad yn newid ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym gael ei ficrosglodynnu, ac i’r ceidwad sy’n trosglwyddo ddiweddaru’r gronfa ddata y mae’r microsglodyn wedi ei gofrestru arni gyda manylion cyswllt y ceidwad newydd.  

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ci llawndwf gael ei ficrosglodynnu heb fod yn hwyrach na 1 Mawrth 2015.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i gŵn wedi’u mewnforio gael eu microsglodynnu.

Mae rheoliad 7 yn esemptio cŵn o’r gofyniad microsglodynnu o dan y Rheoliadau hyn os yw ceidwad y ci ond yn ymweld â Chymru am gyfnod nad yw’n hwy na 30 o ddiwrnodau.  

Mae rheoliad 8 yn creu gweithdrefn sy’n caniatáu  i filfeddyg gael ardystio bod ci yn esempt o’r gofyniad i ficrosglodynnu ar sail ei iechyd.

Mae rheoliad 9 yn nodi pa wybodaeth y mae’n rhaid ei chofnodi mewn cronfa ddata.

Mae rheoliad 10 yn creu troseddau o fethu cydymffurfio â rheoliadau 3, 4, 5 a 6.

Mae rheoliad 11 yn darparu bod y Rheoliadau i gael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol. 

Mae rheoliad 12 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Tocio Cynffonnau Cŵn Gwaith (Cymru) 2007.

 

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.  Gellir cael copi o Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

ce">[1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006([2]).

Yn unol ag adran 12(6) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny yr ymddengys iddynt hwy eu bod yn cynrychioli’r buddiannau y mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwynt, fel y gwelant yn briodol. 

Yn unol ag adran 61(2) o’r Ddeddf honno([3]), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

RHAN  1

Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Adnabod Cŵn) (Cymru) 2014.

(2)  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Awst 2014. 

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

(1) ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “ci bach” (“puppy”) yw ci sy’n llai na 6 mis oed;

ystyr “ci llawndwf” (“adult dog”) yw ci nad yw’n llai na 6 mis oed;

ystyr “microsglodyn” (“microchip”) yw dyfais adnabod amledd radio oddefol darllen yn unig—

(a)     wedi ei rhaglennu â rhif unigryw y gellir ei ddarllen â sganiwr; a

(b)     wedi ei chofrestru mewn cronfa ddata y mae ceidwad y ci’n credu’n rhesymol ei bod yn bodloni gofynion rheoliad 9;

 ystyr “microsglodynnu” (“microchipped”) yw rhoi microsglodyn o dan y croen;

ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o filfeddygon o dan adran 2 o Ddeddf Milfeddygon 1966.

(2) ystyr “ceidwad” (“keeper”), mewn perthynas ag unrhyw gi ac eithrio ci cymorth (o fewn ystyr adran 173(1) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ([4])), yw’r person y mae’r ci yn preswylio gydag ef fel arfer.

Mewn perthynas â chi cymorth, ystyr “ceidwad” yw,—

(a)     hyd nes bod y ci’n peidio â gweithio fel ci cymorth, y corff sy’n gyfrifol am ei hyfforddi a’i neilltuo;

(b)     ar ôl i’r ci beidio â gweithio fel ci cymorth, y person y mae’r ci yn preswylio gydag ef fel arfer. 

Adnabod cŵn bach

3.(1)(1) Pan fo ci llawndwf yn rhoi genedigaeth i gi bach ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, rhaid i geidwad y ci llawndwf hwnnw sicrhau bod y ci bach hwnnw yn cael ei ficrosglodynnu—

(a)     cyn iddo droi’n 56 diwrnod oed; neu

(b)     cyn iddo gael ei drosglwyddo i geidwad newydd,

pa un bynnag yw’r  cynharaf.

(2) Rhaid i geidwad y ci llawndwf gael ei gofrestru fel ceidwad cyntaf y ci bach yn y gronfa ddata y cofrestrir y microsglodyn arni yn unol â rheoliad 9(1)(ii).

Newid Ceidwaid

4.(1)(1) Ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, cyn i unrhyw gi gael ei drosglwyddo i geidwad newydd, rhaid i’r ceidwad sy’n trosglwyddo—

(a)     sicrhau bod y ci wedi ei ficrosglodynnu; a

(b)     rhoi enw, cyfeiriad a rhif ffôn (os oes ganddo un) y ceidwad newydd i weithredwr y gronfa ddata y mae’r microsglodyn a roddwyd yn y ci wedi ei gofrestru arni.

(2) Rhaid i’r ceidwad sy’n trosglwyddo roi’r canlynol i’r ceidwad newydd—

(a)     enw gweithredwr y gronfa ddata y mae manylion microsglodyn y ci wedi’u cofrestru arni; neu

(b)     y dystysgrif a ddyroddwyd o dan reoliad 8(1).

Adnabod Cŵn Llawndwf

5. Rhaid i geidwad unrhyw gi llawndwf sicrhau ei fod wedi ei ficrosglodynnu heb fod yn hwyrach na 1 Mawrth 2015. 

Adnabod Cŵn wedi’u Mewnforio

6. Rhaid i geidwad sy’n mewnforio ci nad yw wedi ei adnabod yn unol â’r Rheoliadau hyn sicrhau ei fod yn cael ei ficrosglodynnu—

(a)     o fewn 30 o ddiwrnodau i fewnforio’r ci; neu

(b)     cyn trosglwyddo’r ci i geidwad newydd,

pa un bynnag yw’r cynharaf.    

Esemptiad i bobl nad ydynt yn breswylwyr

7. Nid yw rheoliadau 3, 4 a 5 yn gymwys i geidwad ci sy’n ymweld â Chymru am gyfnod nad yw’n hwy na 30 o ddiwrnodau.   

Esemptiad Milfeddygol

8.(1)(1) Nid yw rheoliadau 3, 4, 5 a 6 yn gymwys os bydd milfeddyg yn ardystio y byddai microsglodynnu yn gwanhau iechyd ci yn sylweddol.

(2) Rhaid i ardystiad o dan baragraff (1) fod ar ffurf a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

(3) Ni chaniateir dyroddi ardystiad o dan baragraff (1) am fwy na 4 wythnos.

(4) Os yw’r milfeddyg o’r farn fod y risg o wanhau iechyd y ci’n sylweddol yn un barhaol, nid yw paragraff (3) yn gymwys.

 

Gofynion o ran Cronfa Ddata

9.(1)(1) Rhaid i geidwad gredu’n rhesymol fod gweithredwr y gronfa ddata’n cofnodi’r canlynol yn gywir—

                           (i)    rhif unigryw’r microsglodyn;

                         (ii)    enw  a chyfeiriad y ceidwad;

                       (iii)    rhif ffôn y ceidwad, os oes ganddo un;

                        (iv)    enw’r ci;

                          (v)    brîd y ci;

                        (vi)    lliw’r ci;

                      (vii)    unrhyw nodweddion corfforol arbennig sydd gan y ci;

                    (viii)    rhyw’r ci; a

(ix) dyddiad geni’r ci.

(2) Rhaid i geidwad gredu’n rhesymol fod gweithredwr y gronfa ddata—

                           (i)    yn diweddaru unrhyw newidiadau, y rhoddir gwybod amdanynt, i’r wybodaeth a restrir ym mharagraff (1) ar y gronfa ddata;

                         (ii)    yn cofnodi’r wybodaeth a restrir ym mharagraff (1) mewn cronfa ddata gyfrifiadurol ddiogel; a

                       (iii)    yn gallu prosesu ymholiadau am yr wybodaeth honno dros y ffôn neu ar-lein ar bob adeg resymol.

Troseddau

10. Mae’n drosedd, y gellir ei chosbi â dirwy o ddim mwy na lefel 2 ar y raddfa safonol, i—

(a)     methu cydymffurfio â rheoliad 3;

(b)     methu cydymffurfio â rheoliad 4;

(c)     methu cydymffurfio â rheoliad 5; neu

(d)     methu â chydymffurfio â rheoliad 6.

Gorfodi

11. Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.

Diwygio Rheoliadau Tocio Cynffonnau Cŵn Gwaith (Cymru) 2007

12.(1)(1) Mae Rheoliadau Tocio Cynffonnau Cŵn Gwaith (Cymru) 2007([5]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn lle rheoliad 5(1) rhodder— 

“(1) Er mwyn cael ei ddynodi fel ci is-adran (3) fel sy’n ofynnol gan adran 6(8) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006

(a)     rhaid i gi fod wedi ei ficrosglodynnu gan filfeddyg, neu nyrs filfeddygol o dan oruchwyliaeth milfeddyg, yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Adnabod Cŵn) (Cymru) 2014; a

(b)     cyn i’r ci droi’n 91 diwrnod oed, rhaid dynodi ei fod yn gi gwaith ardystiedig o dan adran 6(3) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 drwy nodi’r tociad cynffon fel nodwedd gorfforol arbennig yn y gronfa ddata y mae microsglodyn y ci wedi ei gofrestru ynddi o dan reoliad 9(1)(vii) o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Adnabod Cŵn) (Cymru) 2014.”

 

 

 

 

 

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

 

 



([1])           Diffinnir yr “appropriate national authority” yn adran 62(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.  Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a phargraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

([2])           2006 p.45.

([3])           Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 34 o Atodlen 11 iddi mae'r cyfeiriad yn adran 61(2) at “House of Parliament” yn cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

([4])           2010 p.15.

([5])           O.S.  2007/1028 (Cy. 95).